top of page

Polisi Preifatrwydd

Ein prif flaenoriaeth yw preifatrwydd y rhai sy’n ymweld â’n gwefan. Mae’r Polisi Preifatrwydd yma yn disgrifio'r mathau o wybodaeth sy’n cael ei chasglu a’i chofnodi  gan Cazbah Ltd a sut y byddwn yn ei defnyddio.

 

Os oes gennych gwestiynau ychwanegol neu os ydych angen rhagor o wybodaeth ynglŷn â’n Polisi Preifatrwydd mae pob croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bost ar james.parsons@cazbah.wales
 

Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data (GDPR)

Ni yw'r Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth

Mae sail gyfreithiol Cazbah ar gyfer casglu a defnyddio’r wybodaeth bersonol a ddisgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn dibynnu ar y Wybodaeth Bersonol a gasglwn a chyd-destun penodol casglu’r wybodaeth:

  • Mae Cazbah Ltd angen cyflawni contract gyda chi

  • Rydych wedi caniatáu i Cazbah Ltd wneud hynny

  • Mae prosesu eich gwybodaeth bersonol er budd cyfreithlon Cazbah Ltd

  • Mae angen i Cazbah Ltd gydymffurfio â’r gyfraith

 

Bydd Cazbah Ltd yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo angen at y dibenion a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn unig. Byddwn yn cadw ac yn defnyddio eich gwybodaeth i’r graddau  angenrheidiol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, datrys anghydfodau, a gorfodi ein polisïau

Os ydych yn byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), mae gennych rai hawliau diogelu data. Os hoffech gael gwybod pa Wybodaeth Bersonol sydd gennym amdanoch ac os ydych eisiau ei thynnu oddi ar ein systemau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

 

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawliau diogelu data canlynol:

  • Yr hawl i gyrchu, diweddaru neu ddileu'r wybodaeth sydd gennym amdanoch.

  • Yr hawl i gywiro.

  • Yr hawl i wrthwynebu.

  • Yr hawl i gyfyngu.

  • Yr hawl i gludadwyedd data

  • Yr hawl i ddiddymu caniatâd
     

Cwcis

Fel unrhyw wefan arall, mae eventbocs yn defnyddio cwcis. Defnyddir y cwcis hyn i gadw gwybodaeth gan gynnwys dewisiadau ymwelwyr, a’r tudalennau ar y wefan y mae’r ymwelydd wedi cyrchu neu wedi ymweld â nhw. Defnyddir y wybodaeth i wneud y gorau o brofiad y defnyddwyr trwy addasu cynnwys ein tudalen we yn seiliedig ar y math o ymwelydd sy’n pori a/neu wybodaeth arall.


Gweler manylion ein polisi cwcis yma.


 

Gwybodaeth Plant

Rhan arall o'n blaenoriaeth yw ychwanegu diogelwch ar gyfer y plant sy’n defnyddio'r rhyngrwyd. Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i arsylwi, cymryd rhan mewn, a/neu fonitro ac arwain eu gweithgaredd ar-lein.
 

Nid yw Cazbah Ltd yn casglu unrhyw Wybodaeth Bersonol Adnabyddadwy gan blant o dan 13 oed yn fwriadol. Os ydych yn credu bod eich plentyn wedi darparu’r math hwn o wybodaeth ar ein gwefan, fe’ch anogwn yn gryf i gysylltu â ni ar unwaith fel y gallwn wneud ein gorau glas i ddileu gwybodaeth o’r fath o’n cofnodion yn brydlon.
 

Polisi Preifatrwydd Ar-lein yn Unig

Mae ein Polisi Preifatrwydd yn berthnasol i'n gweithgareddau ar-lein yn unig ac yn ddilys i ymwelwyr â gwefan Cazbah o ran y wybodaeth y maent yn ei rhannu a/neu ei chasglu yn Cazbah Ltd. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw wybodaeth a gesglir all-lein neu drwy sianeli eraill heblaw’r wefan hon.
 

Caniatâd

Cedwir yr holl ddata personol yn ddiogel yn unol â Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data yr UE (Rheoliad (UE) 2016/679) (GDPR). Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych trwy hyn yn cydsynio i'n Polisi Preifatrwydd ac yn cytuno i'w delerau.

bottom of page