Cynllun Gwefan
Er gwaetha twf cyfryngau cymdeithasol mae gwefan gorfforaethol broffesiynol yn parhau yn hanfodol i unrhyw sefydliad, beth bynnag fo'i natur neu ei faint.
Mae gan Cazbah yr arbenigedd a'r sgiliau marchnata i'ch cynorthwyo i gyrraedd a chysylltu â'ch cwsmeriaid ar-lein.
Tu ôl i'r llenni bydd ein harbenigwyr technegol yn sicrhau bod eich gwefan yn diwallu eich anghenion basdata ac e-fasnach tra bydd ein sgiliau marchnata yn sicrhau bod eich safle yn hawdd i'w ddefnyddio ac yn cyd-fynd â brand a gwerthoedd eich cwmni. Byddwn yn gweithio gyda chi ar search engine optimisation, gan ddefnyddio mewnwelediad cwsmer i ddatblygu geiriau allweddol i sicrhau bod eich gwefan yn cyrraedd y gynulleidfa gywir.
Byddwn yn sicrhau y gellir ei ddefnyddio ar smart phone yn ogystal.