Marchnata
'Mae marchnata ac arloesiad yn cynhyrchu canlyniadau; costau yw'r gweddill. Marchnata yw swyddogaeth unigryw a'r hyn sy'n gwahaniaethu busnes'- Peter Drucker
Ydi, mae braidd yn ddioglyd cychwyn gyda dyfyniad ond gan ei fod yn ddyfyniad sy'n diffinio pam fod marchnata effeithiol mor hanfodol i lwyddiant busnes, gobeithiwn y byddwch yn maddau i ni.
Marchnata ac arloesiad ar ei orau sydd wrth wraidd Cazbah, dyma yw ein hagwedd, ein gwerthoedd a'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Rydym yn ddigon hyderus yn ein sgiliau a'n galluoedd i gymryd dull hollol niwtral o ran sianelu eich gweithgaredd marchnata. Byddwn yn gwrando ar yr hyn yr ydych angen, dysgu am eich cwsmeriaid ac argymell datrysiadau creadigol wedi eu seilio ar eich sefyllfa.
Gallwn weithredu strategaeth marchnata gyflawn ar eich rhan, neu weithio gyda'ch staff marchnata ar un neu ragor o elfennau o'ch cynllun fel estyniad dibynadwy, hawdd cyrchu ato ar gyfer eich cwmni.