top of page

VENTUREFEST CYMRU

VF_Wales bilingual.jpg
Screenshot 2019-04-04 at 13.55.45.png
Venturefest-hanging-boards-755x566.jpg

Mae brand Venturefest, sy'n anelu i hyrwyddo arloesedd, entrepreneuriaeth a buddsoddiad - ynghyd â 'r digwyddiad yng Nghymru wedi denu mwy o bobl nag unrhyw ddigwyddiad arall ar gyfer Venturefest UK yn 2016.  Cazbah oedd yn gyfrifol am yr holl waith cynllunio a rheoli digwyddiad, yn cynnwys cynllun creadigol i hybu presenoldeb, dilynwyd hyn gan ddiwrnod llawn yn Stadiwm Swalec, Caerdydd ble roedd cyfle i fynychwyr gyfarfod â sefydlwyr cwmnïau blaengar ac entrepreneuriaid ysgogol Cymreig.
 

Cynhyrchwyd yr holl frandio, cynllunio creadigol, gwefan, a chyfryngau cymdeithasol oddi fewn i gwmni Cazbah ei hun, gan alw ar wasanaeth partneriaid dibynadwy ar gyfer gwaith argraffu, ffotograffiaeth a deunydd arddangosfa. Llwyddodd Cazbah i ddenu nawdd o dros £30,000. Roedd y digwyddiad yn un ar ddull gŵyl gyda phrif siaradwyr, seminarau a digwyddiadau ymylol wedi eu hanelu at wella ecosystem entrepreneuraidd yng Nghymru trwy ddod ag arloeswyr, entrepreneuriaid a buddsoddwyr ynghyd - dan y teitl Torri Trwy Rwystrau.
 

Yn dilyn ein gwaith gyda'r digwyddiad Venturefest Cymru cyntaf yn 2015, fe ehangwyd yr uchelgais yn 2016. Gan weithio gyda busnesau, llywodraeth a academia fe gynhyrchwyd negeseuon a chynnwys i greu digwyddiad gwerthfawr ar gyfer busnesau oedd ar gychwyn, ar fin tyfu yn ogystal â chwmnïau gwasanaethau proffesiynol fel ei gilydd. 

Canlyniadau
 

Rhagorwyd ar y nifer a fynychodd dros y ddwy flynedd - gyda 1,200 yn mynychu yn 2016 - hwn oedd  y  digwyddiad Venturefest mwyaf llwyddiannus yn ystod y flwyddyn honno.  Dywedodd 93% fod ganddynt ddiddordeb mewn mynychu digwyddiadau Venturefest eraill i'r dyfodol.

​

"Roedd fy nhîm a minnau yn llawn syniadau ac ysgogiad wrth i ni ymadael â Venturefest"
 

"O'r diwedd dyma ddigwyddiad sydd wedi diwallu'r hyn oedd yn addo - sef dod â chymaint o arbenigwyr ynghyd i rannu mewnwelediad a chyngor mor amrywiol ar gyfer pob math o fusnes waeth beth fo’u cylch bywyd."
 

"Ystod anhygoel o siaradwyr ysbrydoledig a stondinau, cyfle gwych i gyfarfod a rhwydweithio"

31089763492_e4d52df8e0_k.jpg
30866139260_606939b605_k.jpg
Screenshot 2019-04-04 at 13.56.09.png
bottom of page