



CYNHADLEDD INTERNATIONAL MINE WATER ASSOCIATION (IMWA) (2023)
Darparu cynhadledd ryngwladol o safon fyd-eang yn ddi-dor, gan arddangos arweinyddiaeth Cymru ym maes arloesi amgylcheddol.
Gwasanaethau
Gwasanaeth llawn gan gynnwys datblygu’r rhaglen; cydlynu rhanddeiliaid; cofrestru a chyfathrebu â chleientiaid; rheoli nawdd ac arddangosfeydd; logisteg teithio; cysylltu â’r lleoliad; trefnu rhaglen adloniant lawn i westeion; a darparu cynadleddau wyneb yn wyneb a rhithwir.
Yr Her
Roedd Cymdeithas Ryngwladol Dŵr Mwyngloddiau (IMWA) angen partner darparu profiadol i reoli cynhadledd ryngwladol gymhleth dros wythnos, gan ddod â rhanddeiliaid a chynadleddwyr o bob cwr o’r byd ynghyd. Yn dilyn cynhadledd rithwir yn 2021, roedd digwyddiad 2023 yn nodi’r dychweliad i fformat wyneb yn wyneb, gan olygu bod angen sicrhau profiad cynadleddol o’r safon uchaf tra’n arddangos Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
Ein Dull
Darparodd Cazbah wasanaeth rheoli digwyddiadau o’r dechrau i’r diwedd, gan weithio’n agos gyda phwyllgor trefnu IMWA a phartneriaid allweddol gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Glo, Llywodraeth Cymru a phrifysgolion blaenllaw.
Buom yn cadeirio cyfarfodydd cynllunio, yn cydlynu mewnbwn rhanddeiliaid ac yn datblygu rhaglen gynhwysfawr yn cynnwys sesiynau academaidd, arddangosfeydd, ymweliadau safle a chinio gala. Roeddem hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar gyfathrebu â chynadleddwyr, cofrestru a logisteg, gan sicrhau profiad croesawgar a di-dor i gynulleidfa ryngwladol.
Gan ddefnyddio ein rhwydwaith o bartneriaid dibynadwy, curadwyd rhaglen gymdeithasol unigryw a oedd yn dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys cinio gala mawreddog a noson lawn o adloniant gyda pherfformiadau gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Canlynidau
Cynhadledd ryngwladol hynod broffesiynol ac ymgysylltiol a ddaeth ag arbenigwyr byd-eang ynghyd, cryfhau cydweithio rhwng sefydliadau, a chadarnhau enw da Cymru fel arweinydd ym maes rheoli dŵr mwyngloddiau’n gynaliadwy.
Y Canlyniadau ar Gipolwg
-
Cynadleddwyr o Ewrop, Asia, Affrica ac America
-
Rhaglen wythnos o hyd yn cyfuno profiadau academaidd, diwylliannol a rhwydweithio
-
Pontio llwyddiannus o gynhadledd rithwir (2021) i ddigwyddiad wyneb yn wyneb (2023)
-
Cydweithio cryf rhwng nifer o sefydliadau partner
-
Adborth cadarnhaol yn canmol proffesiynoldeb, trefniadaeth a phrofiad y cynadleddwyr




