LIBERTY STEEL
Roedd y DU gyfan yn gwylio wrth i Liberty Steel ail agor ei safle yn y Drenewydd ar ôl dwy flynedd o fod ar gau, a gofynnwyd i Cazbah drefnu a hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu'r achlysur.
Gan weithio gyda staff Liberty yng Nghymru, Dubai ac India, cynhyrchwyd rhestr o westeion o bob cwr o'r byd, a'u cludo i Gymru ar gyfer tri digwyddiad mewn lleoliadau gwahanol. Sicrhaodd bysiau gwennol fod y gwesteion yn cyrraedd y digwyddiadau cywir ar yr amser cywir ac fe sicrhaodd aelodau o dîm Cazbah fod popeth yn ei le ar gyfer pob lleoliad yn cynnwys AV, arlwyo yn ogystal â stafelloedd ymolchi a llety gerllaw. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd teithiau o amgylch safle Liberty ar ei newydd wedd - ac arddangosfeydd tân gwyllt i ddathlu pennod newydd yn hanes dur Cymru.