top of page

CYNHADLEDD GENEDLAETHOL RHWYDWAITH SEREN 

Seren Network Logo_Bilingual-Seren green
06.12.17 mh Seren Students Conference 81

Menter Llywodraeth Cymru yw Rhwydwaith Seren a fwriadwyd i gynorthwyo myfyrwyr mwyaf galluog a thalentog Cymru i ymgeisio am le yn y gorau ymhlith prifysgolion y DU a thu hwnt. Mae'r gynhadledd yn ddigwyddiad blynyddol i ysbrydoli, ysgogi a chyfeirio myfyrwyr blwyddyn 12 a'u hathrawon.
 

Yn dilyn llwyddiant cynhadledd 2017 a drefnwyd gan Cazbah enillodd y cwmni'r cytundeb i drefnu'r gynhadledd dros y 3 blynedd nesaf - gyda digwyddiad 2018 yn cael ei gynnal dros 3 diwrnod dan y teitl 'Ewch Ymhellach'
 

Mewn partneriaeth â'r Brilliant Club a Markit Consultancy trefnwyd rhaglen i roi myfyrwyr mewn cysylltiad â bron 50 o'r prifysgolion gorau - yn cynnwys Russell and Sutton Groups, a sefydliadau dramor megis Yale.
 

Cynhyrchwyd arddangosfa eang, ac app rhyngweithiol ar gyfer y myfyrwyr a'r rhai proffesiynol i'w galluogi i ddilyn eu sesiynau a chael y gorau o'r digwyddiad - gyda'r holl ddefnyddiau a chyflwyniadau ar gael yn ddwyieithog. 

 

Canlyniadau
 

Roedd hwn yn ddigwyddiad hynod lwyddiannus i fyfyrwyr a staff o blith dros 100 o ddosbarthiadau'r chweched a cholegau AB - gyda 94% yn datgan ei fod yn hynod addysgiadol a chynorthwyol. Roedd y prifysgolion hefyd yn ei ystyried yn ddefnyddiol.
 

"Prin iawn yw'r adegau, os erioed yr ydw i wedi mynychu digwyddiad Llywodraeth Cymru oedd mor fywiog, llawn ynni a brwdfrydedd"
 

"Roedd y sesiynau byr, craff yn effeithiol ac addysgiadol"
 

"Roedd y cyfnodau rhwng sesiynau wedi eu trefnu yn dda"

Seren app 2018.jpg
06.12.17 mh Seren Students Conference 35
PO_150317_SEREN Conference_06.jpg
06.12.17 mh Seren Students Conference 26
06.12.17 mh Seren Students Conference 32
bottom of page