top of page

CYNHADLEDD ARLOESEDD DŴR CYMRU

Welsh Header.png
ww_new logoJun2016.jpg

Mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi dros £7miliwn mewn prosiectau arloesol, gan ofyn i Cazbah gynorthwyo i'w bywiogi yn y gynhadledd flynyddol.

 

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngholeg Celf a Drama Caerdydd gan ddod â 350 o gynrychiolwyr oddi fewn ac oddi allan i'r diwydiant ynghyd.
 

Gan weithio ar y cyd gyda Thîm Arloesedd Dŵr Cymru, cynorthwyodd Cazbah i gynhyrchu rhaglen gyffrous, ryngweithiol yn cynnwys arddangosfeydd o'r dechnoleg ddiweddaraf megis realiti rhithwir, realiti estynedig, chatbot gwybyddol.

 

Roedd dewis o weithdai, parth arloesedd, arddangosfa a chyfraniadau gan siaradwyr blaenllaw y diwydiant. Roedd Cazbah yn cynnig mewnbwn a chyngor trwy gydol y cyfnod trefnu, gan gymryd cyfrifoldeb am osod a rheoli'r arddangosfa ryngweithiol, gydag aelodau o staff ar gael trwy gydol y dydd.  

 

Canlyniadau

Roedd yr adborth yn hynod bositif, gyda 99% o gynrychiolwyr yn ystyried y diwrnod yn un 'ardderchog' neu 'dda' ac yn amlygu'r awyrgylch bywiog ynghlwm â'r digwyddiad.

IMG_7755.jpg
bottom of page