GWOBRAU ESTNET A THECHNOLEG CYMRU
Cazbah yw'r grym creadigol a gynorthwyodd i sefydlu ESTnet fel yr awdurdod ar gyfer diwydiant electroneg a meddalwedd yng Nghymru - sy'n cynrychioli dros 3,000 o gwmnïau yn cyflogi 40,000 o bobl.
Maes cyfrifoldeb Cazbah oedd yr holl agweddau marchnata a chyfathrebu sydd ar y cyd wedi cynyddu aelodaeth, gwella proffil ESTnet a sicrhau bod technoleg yn ganolog i economi Cymru.
​
Cazbah oedd yn gyfrifol am drefnu a rheoli achlysur Gwobrau ESTnet, a ail lansiwyd yn ddiweddarach fel Gwobrau Technoleg Cymru - gan roi sylw i'r sefydliadau a'r unigolion gorau ar draws y wlad. Law yn llaw â'i bartner Working Word, ail gynlluniwyd a rhoddwyd hwb i'r digwyddiad, gan sicrhau cynulleidfa lawn ar gyfer y seremoni wobrwyo y llynedd.
Canlyniadau
Y canlyniad yw delwedd wedi ei ddiweddaru ar gyfer apelio at lywodraeth, academia, busnes a'r genhedlaeth nesaf o beirianyddion meddalwedd a thechnoleg ac entrepreneuriaid Cymru. O ganlyniad i ymglymiad Cazbah cynyddwyd aelodaeth ESTnet gan 212%, ac ymweliadau â'r wefan gan 150%.