top of page

SIOEAU TEITHIOL S4C

1200px-S4C_logo_2014.svg.png

Llwyddodd Cazbah i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru i hyrwyddo S4C fel y sianel ddewisol ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Ein cysyniad oedd arddangos bod S4C ar gael ym mhobman, ar bob llwyfan, ac ar gyfer pawb. Defnyddiwyd cerddoriaeth i ddenu pobl yn  ystod digwyddiadau ac yn safleoedd pwysicaf Cymru yn cynnwys Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod, Ffair Newydd Ddyfodiaid Prifysgol Aberystwyth a Skills Cymru yng Nghaerdydd. Roedd y cymeriadau yn eu gwisgoedd lliwgar yn cynorthwyo i ddiddanu'r plant!
 

Cymerodd rai o sêr enwog S4C  ran yn yr holl ddigwyddiadau, gan gynorthwyo i ddenu torfeydd a lledaenu'r neges. Cynhaliwyd 42 sioe symudol - 12 digwyddiad mawr a 30 arall mewn lleoliadau llai o ran maint. Datblygwyd yr holl ddelwedd, y logisteg, y gwahoddiadau a'r asbri oedd ynghlwm â'r digwyddiadau gan Cazbah.

 

Canlyniadau
 

Daeth dros 7,000 i'r digwyddiadau ac fe ddosbarthwyd miloedd o daflenni. Cynhyrchodd yr ymgyrch gyfan ewyllys da a theyrngarwch tuag at S4C.

S4C No Speaky_Dim Problem Booklet_Page_0
S4C No Speaky_Dim Problem Booklet_Page_0
15709851556_350ae0742d_o.jpg
15731648901_7d02065b0a_o.jpg
bottom of page