top of page

Datganiad Lleihau Carbon

Mae Cazbah wedi ymrwymo i ddod yn gwmni carbon niwtral, gan gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr Net Zero erbyn 2050 yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y DU o dan y Ddeddf Newid Hinsawdd.

Ymhellach gellir  gweld y Cynllun Lleihau Carbon ar gyfer ein swyddfa gofrestredig ym Mae Caerdydd a rennir gyda'n partner cysylltiadau cyhoeddus Working Word yma.

 

Cynhelir cynaliadwyedd a lleihau Ôl Troed Carbon Cazbah trwy wneud penderfyniadau amgylcheddol cyfrifol ar bob lefel o fewn ein busnes.  Mae hyn yn cynnwys ac nid yn gyfyngedig i:


Ein Model Busnes:
 

  • Gweithwyr yn gweithio gartref / defnydd ynni

  • Seilwaith digidol a gwasanaethau cwmwl

  • Nwyddau a gwasanaethau a brynir (cadwyn gyflenwi)

  • Teithio busnes (lleiafswm)
     

Egwyddorion Busnes Cynaliadwy:

Dewis lleoliad ac arfer da
 

Rydym yn defnyddio ein perthynas dda â lleoliadau cynadledda i sicrhau arferion cynaliadwy sy'n lleihau ôl troed carbon. Mae hyn yn cynnwys:

 

  • Sicrhau mynediad i gludiant cyhoeddus ar y ffyrdd a'r rheilffordd, a gofynion teithio tramor (ystyrir digwyddiadau hybrid yn yr achos hwn)

  • Effaith cymunedol e.e lefelau sŵn, tagfeydd traffig, hybu’r economi leol ayb

  • Argaeledd cyflenwyr bwyd a diod lleol i leihau effaith trafnidiaeth a digonedd o fwydlenni fegan/llysieuol.

  • Ffynonellau ynni gwyrdd sydd ar gael yn y lleoliad e.e. ynni adnewyddadwy ar gyfer golau a gwres

  • Polisi amgylcheddol cyfoes a Chynllun Lleihau Carbon sy'n amlygu eu hymrwymiad eu hunain i Net Sero.

 

Defnyddio cynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy


Mae Cazbah yn rhoi blaenoriaeth i weithio gyda chyflenwyr sydd ag opsiynau ecogyfeillgar ar gyfer pob agwedd ar reoli digwyddiadau, gan gynnwys ffilmio digwyddiadau, clyweled a llwyfannu, gwasanaethau argraffu a nwyddau, lleihau ôl troed carbon ein digwyddiadau a thrwy hynny ein cleient. Gwnawn hyn drwy:
 

  • Fabwysiadu agwedd 'digidol yn gyntaf' at wybodaeth digwyddiadau

  • Anelu at ddigwyddiadau di-blastig.

  • Sicrhau bod unrhyw ddewisiadau o ran nwyddau yn gynaliadwy, gan ddefnyddio cyflenwyr lleol.

  • Gweithio gyda chyflenwyr clyweledol a llwyfannu sydd a’r gallu i ddarparu goleuadau ynni-effeithlon lle bynnag bo'n bosibl a gweithio i sicrhau y gellir ail ddefnyddio llwyfannu a graffeg ar gyfer digwyddiadau eraill ar gyfer ein cleientiaid neu bartneriaid

  • Ceisio datrysiadau trafnidiaeth carbon isel, defnyddio cyflenwyr lleol a/neu opsiynau cludiant cyhoeddus a rhannu teithio lle bynnag y bo modd.

  • Ystyried digwyddiadau hybrid neu rithwir. Mae eventbocs platfform ar-lein Cazbah yn cynorthwyo i leihau allyriadau carbon drwy leihau teithio ynghyd â’r ystyriaethau eraill a amlinellir uchod.

bottom of page