top of page
ICCFW - Logo1.png
FxdZnuwWcAQ0iCU.jpg
F7GeRAcWcAA6NJa.jpg

Y COMISIWN ANNIBYNNOL ER DDYFODOL CYFANSODDIADOL CYMRU (2023)

Darparu sioe deithiol ddwyieithog ledled Cymru i gasglu lleisiau’r cyhoedd ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

 

Gwasanaethau

Darparu sioe deithiol o’r dechrau i’r diwedd gan gynnwys cysylltu â lleoliadau; cydlynu rhanddeiliaid; cyfathrebu dwyieithog; nwyddau hyrwyddo; brandio; cynnal arolygon; staffio; a rheoli data.

 

Yr Her

Roedd angen ffordd gynhwysol a hygyrch ar Gomisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i ymgysylltu â dinasyddion ledled y wlad mewn sgwrs genedlaethol. Roedd yn rhaid i’r rhaglen gyrraedd cymunedau amrywiol, annog cyfranogiad, a chasglu adborth ystyrlon oedd yn adlewyrchu safbwyntiau pobl ledled Cymru.

 

Ein Dull

Fel rhan o strategaeth ymgysylltu ehangach y Comisiwn, dyluniodd a chyflwynodd Cazbah raglen sioe deithiol ddwyieithog ar draws 25 o leoliadau ledled Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn mannau cyhoeddus hygyrch, gan gynnwys canol trefi, canolfannau siopa a lleoliadau cymunedol, er mwyn annog cyfranogiad wedi’i gynllunio yn ogystal ag ymgysylltiad digymell.

 

Rheolodd Cazbah yr holl drefniadau logistaidd, staffio, brandio a chyflwyno’r arolygon, gan sicrhau cysondeb ac ansawdd ym mhob lleoliad. Cefnogwyd pob digwyddiad gan ddeunyddiau hyrwyddo dwyieithog a hwyluswyr dwyieithog hyfforddedig, gan greu profiad croesawgar ac addysgiadol i bob cyfranogwr.

 

Buom hefyd yn cynhyrchu cynnwys hyrwyddo deniadol a oedd yn galluogi’r digwyddiadau i gael eu hyrwyddo’n eang drwy sianeli digidol a lleol, gan ddenu ystod eang o gyfranogwyr o wahanol gymunedau a chefndiroedd.

 

Canlyniadau

Darparwyd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus amlwg a chynhwysol a lwyddodd i gasglu ystod eang o safbwyntiau, gan gyfrannu’n uniongyrchol at drafodaethau polisi cenedlaethol a gwaith terfynol y Comisiwn.

 

Y Canlyniadau ar Gipolwg

  • 25 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal ledled Cymru

  • 2,327 o arolygon wedi’u cwblhau

  • Ymgysylltiad llwyddiannus â chymunedau trefol a gwledig

  • Darpariaeth gwbl ddwyieithog yn sicrhau hygyrchedd

  • Cyfrannodd y mewnwelediadau’n uniongyrchol at adroddiad terfynol y Comisiwn

Fs9y1DMWABM2CsK.jpg
Fs9y1DMWAB0v-OH.jpg
Fs8Df7FWIAAI9DP.jpg
bottom of page