top of page

Y CRIW MENTRUS
Cystadleuaeth Ysgolion Cynradd

Enterprise-Troopers-leafet-A5-A3-1184x12
Enterprise-Troopers-leafet-A5-A3-1184x12

Ers ei lansio yn 2013, Cazbah sydd wedi bod yn gyfrifol am greu, cynllunio a rheoli'r fenter gyffrous yma gan Lywodraeth Cymru. Y Criw Mentrus yw cystadleuaeth genedlaethol flynyddol ar gyfer ysgolion cynradd Cymru i ysbrydoli plant i ddysgu sgiliau busnes a meithrin ysbryd entrepreneuraidd. Er mwyn cadw diddordeb y plant mae'n rhaid i'r gystadleuaeth fod yn un ryngweithiol, llawn hwyl, felly fe grëwyd 'teulu o gymeriadau' i gynrychioli elfennau entrepreneuriaeth: Agwedd, Creadigedd, Perthynas a Threfn. Ymddangosodd y cymeriadau - Amy, Callum, Rhian ac Owain, ar yr holl ddefnydd hyrwyddo ac 'mewn person' yn y digwyddiadau, gan ddefnyddio modelau ifanc mewn gwisgoedd lliwgar.
 

Ein syniad oedd cyflwyno'r cymeriadau fel uwch arwyr oedd yn cydweithio i greu syniadau busnes gwych. Roeddent yn gwbl ddwyieithog ac felly'n ategu brand presennol Syniadau Mawr Cymru, Llywodraeth Cymru.
 

Roeddem yn gyfrifol am ddatblygu syniad, brand, hyrwyddiad a strwythur y gystadleuaeth yn ogystal â fformat y digwyddiad. Cynhelir y gystadleuaeth ar ffurf pum rownd ranbarthol ac un rownd derfynol - yn denu oddeutu 380 o blant, 180 staff dysgu a 150 o brif westeion yn flynyddol.

​
 

Canlyniadau
 

Cytunodd yr holl ysgolion a fynychwyd gan y Criw Mentrus fod hon yn gystadleuaeth wych, gyda chefnogaeth dda i'r plant a'r athrawon trwy gydol y broses.
 

"Roedd yn ddiwrnod gwych, wedi ei drefnu'n ardderchog ac mewn lleoliad rhagorol, byddwn yn edrych ymlaen at gymryd rhan eto'r flwyddyn nesaf."
 

"Profiad gwych i'r disgyblion - rydym yn parhau i gymryd rhan er mwyn dangos pa mor bwysig yw!"

Enterprise-Troopers-Newsletter-2-1920x12
Enterprise-Troopers-leafet-hanging-up-1-
42471387134_47c95f7a47_k.jpg
42284656555_222089957e_k.jpg
34309652174_acdccae48a_k.jpg
29317747768_8aade344d7_k.jpg
bottom of page