SESIYNAU GWYBODAETH AM DOMENNYDD GLO SEGUR
Yn dilyn cyhoeddi lleoliadau tomennydd glo segur gradd C a D ledled Cymru, Comisiynwyd Cazbah gan Lywodraeth Cymru i ddylunio a chyflwyno cyfres o sesiynau rhannu gwybodaeth ar gyfer cymunedau a rhanddeiliaid yr effeithiwyd arnynt gan y safleoedd hyn. Y nod oedd sicrhau argaeledd gwybodaeth gywir a hygyrch i'r rhai sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardaloedd a effeithiwyd arnynt fwyaf.
Gan weithio'n agos gyda thîm Llywodraeth Cymru, datblygodd Cazbah raglen ymgysylltu ddwyieithog yn cyfuno digwyddiadau ar-lein yn ogystal ag wyneb yn wyneb i wneud y mwyaf o gyrhaeddiad a hygyrchedd. Er mwyn darparu ar gyfer gwahanol batrymau gwaith trefnwyd y sesiynau rhithwir, a gynhaliwyd ar wahanol adegau o'r dydd ar eventbocs, sef ein platfform digwyddiadau dwyieithog ein hunain. Cynhaliwyd y digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ardaloedd yr awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan leoliadau'r tomennydd glo segur — gan gynnwys Torfaen, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot a Merthyr Tudful.
Er mwyn hyrwyddo'r sesiynau, gweithredodd Cazbah ymgyrch gydlynol cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth ac arwain y mynychwyr at system archebu ar-lein ddwyieithog. Roedd y broses gofrestru yn casglu manylion allweddol gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol, mynediad a gofynion yr iaith Gymraeg, a chydsyniad i dderbyn diweddariadau pellach yn unol â pholisïau diogelu data a phreifatrwydd.
Cofrestrodd y cyfranogwyr yn ffurfiol ar gyfer y sesiynau ar-lein, gyda mynychwyr "galw i mewn" ychwanegol yn ymuno â'r digwyddiadau wyneb yn wyneb ar ôl clywed amdanynt trwy gyfrwng ymgyrchoedd hyrwyddo lleol ac Aelodau'r Senedd. Er bod y presenoldeb yn amrywio yn ôl lleoliad, roedd nifer y rhai a fynychodd y rhan fwyaf o sesiynau wyneb yn wyneb yn uwch na'r nifer a gofrestrodd. Roedd cyfran fawr o'r mynychwyr yn gynghorwyr lleol, gan sicrhau y byddai'r wybodaeth yn cyrraedd cynulleidfa gymunedol ehangach trwy rwydweithiau lleol.
Canlyniadau
Llwyddodd y sesiynau gwybodaeth am domennydd glo i ddarparu cyfathrebu clir a ffeithiol ar fater sensitif a chymhleth, gan sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu hysbysu a'u clywed.
-
Cofrestrodd 56 o unigolion, gyda nifer ychwanegol yn ymgysylltu trwy sesiynau galw heibio.
-
Cyflwynwyd digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar draws pum ardal awdurdod lleol.
-
Sesiwn ar-lein gwbl ddwyieithog wedi'i harchebu ymlaen llaw
-
Clinigau galw heibio mewn 5 awdurdod lleol
-
Sicrhawyd cyfranogiad lleol cryf trwy fynediad dwyieithog, amserlennu hyblyg a hyrwyddo wedi'i dargedu.
-
Estynnwyd cyrhaeddiad gwybodaeth i gymunedau ehangach trwy gyfranogiad cynghorwyr.