Ymchwil a Gwerthuso
Mae Cazbah yn cydnabod ein bod yn byw mewn oes ble mae penderfyniadau strategol effeithiol ac enillion ar fuddsoddiad a mesur llwyddiant yn bwysicach nag erioed.
Mae ein dull o ymchwilio a gwerthuso yn gyfuniad o dechnoleg newydd a phroffesiynoliaeth hen ffasiwn.
Mae ein hwyluswyr a'n cyfwelwyr hyfforddedig yn arbenigo mewn ymchwil a gwerthusiad dadansoddol. Bydd eu dull didaro a phroffesiynol yn sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth o'r radd flaenaf gan eich cwsmeriaid a chyfranddalwyr, yn Saesneg a Chymraeg.
Gallwn gynorthwyo gydag arbrofi sampl fechan neu gyda phrosiectau ymchwil marchnad llawer ehangach, gan ddefnyddio technegau dadansoddol a mesurol.
Wrth gwrs, mae gweithio gyda ni ar ymgyrch marchnata integredig neu raglen o ddigwyddiadau, yn rhan o'r holl wasanaeth.
​
​