top of page

SKILLS CYMRU

b43g6714_14971313984_o.jpg
46025711304_be4f745797_o.jpg
skillscymru cmyk.jpg

Mae Cazbah wedi bod yn gyfrifol  am Skills Cymru mewn partneriaeth â Prospects  ers ei lansiad yn 2011. Dyma’r gyfres fwyaf o ddigwyddiadau yn ymwneud â gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau yng Nghymru sy’n dod â phobl ifanc, busnesau, athrawon ac adrannau Llywodraeth Cymru ynghyd. Mae dros 10,000 o bobl yn mynychu bob blwyddyn. 
 

Datblygwyd a chynhaliwyd rhaglen wirfoddoli gan Cazbah er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc ddefnyddio eu sgiliau i ennill profiad mewn trefnu digwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol, holi, cyflwyno a rhyngweithio gydag arddangoswyr a gwesteion.
 

Cysylltwyd ag ysgolion a mudiadau eraill ar draws Cymru i annog gwirfoddolwyr ifanc o ystod eang o gefndiroedd i gymryd rhan.

 

Canlyniadau
 

Llwyddodd pob digwyddiad i rannu negeseuon allweddol ynglÅ·n â sgiliau prentisiaethau a gyrfaoedd mewn modd cyffrous a rhyngweithiol. Cafodd y gwirfoddolwyr brofiad real i ychwanegu at eu CV fel carreg gamu i gyflogaeth neu hyfforddiant pellach.
 

“Mae hwn yn gyfle gwych ar gyfer ein dysgwyr i'w galluogi i ennill profiad gwaith gwerthfawr a chael cyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad proffil uchel ”
 

“Mi wnes i wirioneddol fwynhau cyd weithio gyda chi a'ch tîm, yn ddiolchgar tu hwnt am brofiad bendigedig ”
 

“Maent i gyd wedi cael cyfle i ymarfer a datblygu eu sgiliau cyfathrebu a threfnu mewn cyd-destun proffesiynol”

43458702500_e056a9c2e4_o.jpg
45272971041_47598b1bf2_o.jpg
32875278838_1f6295c3be_o.jpg
39785307103_2a15d58cb8_o.jpg
bottom of page