CEFNOGI'R CYFAN
Canolfan Cydweithredol Cymru
Arweiniwyd ymgyrch ‘Cefnogi'r Cyfan’ ar ran Canolfan Cydweithredol Cymru gan Cazbah er mwyn codi ymwybyddiaeth o fenter gymdeithasol ar draws saith sir yng Nghymru. Roedd y thema gylchog a'r ddelwedd yn arddangos y ffordd y maent yn ychwanegu gwerth ar hyd y gadwyn gyfan i'r gymuned ehangach - o'r defnyddiwr i'r darparwr.
Defnyddiwyd astudiaethau achos difyr trwy undebau credyd a chaffis cymunedol, i ddatblygu chwaraeon a'r rhai sy'n cynnig hyfforddiant a swyddi i bobl gydag anawsterau dysgu. Arddangoswyd y rhain trwy fideos, gwefan yr ymgyrch, cyfryngau cymdeithasol a thrwy hysbysebu er mwyn egluro'n glir y syniad a'r buddion moesegol.
Y bwriad oedd creu gwell dealltwriaeth o fenter gymdeithasol, ac annog pobl i'w defnyddio a chynorthwyo'r darparwyr i hyrwyddo eu negeseuon.
Canlyniadau
Dywedodd 90% o ddeiliaid diddordeb bod y ddelwedd a'r ymgyrch wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth, a'u bod yn ystyried y syniad a'r deunyddiau yn ddefnyddiol a chlir. Mae hefyd wedi bod yn gynaliadwy, gyda delwedd Cefnogi’r Cyfan yn parhau i gael ei ddefnyddio flwyddyn a rhagor wedi'r ymgyrch ddod i ben.