top of page
Catapult pull up.jpg

CYMWYSIADAU LLED-DDARGLUDYDDION CYFANSAWDD CATAPULT

Mae canolfannau Catapult yn rhwydwaith o ganolfannau blaengar sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo gallu'r DU  i arloesi. Yr amcan yng Nghymru yw'r defnydd i'r dyfodol  o gymwysiadau lled ddargludyddion cyfansawdd  -  mewn unrhyw beth o drafnidiaeth i lawfeddygaeth, a 'smart phones' a 'phethau'r rhyngrwyd'. 
 

Ond roedd y sefydliad newydd yma - rhwydwaith Catapult cyntaf y Llywodraeth i'w lleoli yng Nghymru angen presenoldeb a llwyfan i'w alluogi i gysylltu â diwydiant.
 

Derbyniodd Cazbah y sialens gan ddarparu'r holl ddelwedd a’r gwaith cyfathrebu o'r cychwyn cyntaf 
 

 Trwy gyfrwng logo a gynlluniwyd yn arbennig, delweddaeth a brandio yn cynnwys  gwefan ac arddangosfeydd a chyflwyniadau a ddefnyddiwyd mewn cyfarfodydd hanfodol Llywodraeth y DU, llwyddodd ein strategaeth i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a diwydiant. Cynorthwyodd ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol i gysylltu Catapult gyda diwydiant a llywodraeth, ac fe arddangosir ei waith trwy gyfrwng fideos a gynhyrchwyd yn arbennig. 

Catapult csa Logo 7680.jpg
Catapult mouse pad.jpg
Catapult leaflets A4.jpg
Catapult 4pp booklet.jpg
Catapult.jpg
Catapult leaflet.jpg
bottom of page