
Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl
Mae cyfarwyddwyr Cazbah Ltd wedi ymrwymo’n ffurfiol ac wedi cytuno i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl ym mhob rhan o’n busnes yn ogystal â’n cadwyni cyflenwi a’n hisgontractwyr.
Rydym yn gwmni rheoli digwyddiadau a marchnata sy’n gweithredu ledled Cymru a gweddill y DU. Mae ein tîm o weithwyr proffesiynol a’n haelodau cysylltiol yn gweithio o bell o’u cartrefi yn bennaf ac yn gyffredinol ni ystyrir eu bod mewn perygl o gaethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o gyflenwyr ac isgontractwyr, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau clyweledol, ffilmio, cysylltiadau cyhoeddus, nwyddau a gwasanaethau creadigol eraill yn ogystal â ffotograffwyr llawrydd. Mae'n ofynnol i bob un o'n cyflenwyr ac isgontractwyr ddangos eu hymrwymiad i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl drwy gytundeb cyflenwr/is-gontractwr.