top of page

SYNIADAU MAWR CYMRU

Screenshot 2019-04-05 at 16.07.57.png

Er mwyn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru, rydym wedi darganfod a hyfforddi byddin o Fodelau Rôl ysgogol o bob rhan o fusnes a diwydiant – o gogyddion i artistiaid i fuddsoddwyr ariannog a cherddorion. Mae’n rhan o ymgyrch Syniadau Mawr Cymru sydd â’r bwriad i feithrin sgiliau menter pobl ifanc beth bynnag fo’u dewis gyrfa. Ac mae Cazbah wedi bod yn rym creadigol tu ôl i’r fenter o’r cychwyn cyntaf. 

​

Gan weithio gyda’n partneriaid Prospects, Business In Focus, Antur Teifi a Markit,  rydym wedi dod ag athrawon, cyflogwyr, gwleidyddion, a phobl ifanc ynghyd mewn cyfres o ddigwyddiadau, seremonïau gwobrwyo a chystadlaethau dan faner rhaglen Syniadau Mawr Cymru. Rydym wedi cynllunio holl ddeunydd y prosiect yn cynnwys, gwefannau, taflenni, pamffledi, fideos, a byrddau arddangos.

 

Canlyniad ein rhwydwaith ardderchog o gysylltiadau ledled Cymru yw adnodd amhrisiadwy o brofiad ac ysbrydoliaeth ar gyfer pobl ifanc trwy astudiaethau achos, sesiynau un i un,  bootcamp,  gweithdai a digwyddiadau cenedlaethol

 

Llwyddodd ein gwaith cynllunio creadigol  i godi ymwybyddiaeth y prosiect a thrwy hynny godi uchelgais pobl ifanc ledled Cymru. 

​

Canlyniadau

​

Rydym yn cysylltu â dros 50,000 o bobl ifanc yn flynyddol i’w hysgogi i fod yn fos arnynt eu hunain rhyw ddiwrnod ac i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd. Rydym wedi cefnogi dros 600 o bobl ifanc ar sail un i un gyda chyngor arbenigol ac arweiniad ac rydym wedi cefnogi 100 o bobl ifanc o dan 25 mlwydd oed i gychwyn busnes.

Screenshot 2019-04-05 at 14.58.30.png
  • Twitter - White Circle
  • Flickr - White Circle
  • Vimeo - White Circle

© 2019 Cazbah Ltd

bottom of page