SIONED JENKINS
Rheolwr Digwyddiad / Cydlynydd Digwyddiad
Mae Sioned wedi gweithio i Cazbah ar wahanol ddigwyddiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae wedi ymwneud â digwyddiadau sy’n amrywio o Gystadleuaeth Y Criw Mentrus ar gyfer Ysgolion Cynradd, digwyddiadau Cwricwlwm Llywodraeth Cymru , Cynhadledd Genedlaethol Seren, Syniadau Mawr Cymru, Digwyddiadau sioe deithiol Cymru’n Gweithio ar gyfer Gyrfa Cymru a sioeau teithiol ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer ymgyrch Pwysau Iach, Cymru Iach.
​
Prif nod Sioned gyda’n holl ddigwyddiadau yw cyfrannu at eu llwyddiant a sicrhau bod pawb sy’n mynychu yn fodlon gyda’u profiad. Mae’n aelod gwych o dîm ac mae’n gallu adeiladu perthynas yn gyflym gyda’i chydweithwyr, mynychwyr y digwyddiad a’r cleientiaid. Mae’n berson sy’n gallu gweithio’n unigol neu o fewn tîm, gan ffynnu ar yr heriau a roddir iddi.
Mae Sioned yn rhygl yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn gweithredu’n llawn yn y ddwy iaith.
Cyswllt: