top of page

SYNIADAU MAWR CYMRU

Screenshot 2019-04-27 at 15.59.51.png
BIW 2 line logos bi pink.jpg

Er mwyn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru, rydym wedi darganfod a hyfforddi byddin o Fodelau Rôl ysgogol o bob rhan o fusnes a diwydiant – o gogyddion i artistiaid i fuddsoddwyr ariannog a cherddorion. Mae’n rhan o ymgyrch Syniadau Mawr Cymru sydd â’r bwriad i feithrin sgiliau menter pobl ifanc beth bynnag fo’u dewis gyrfa. Ac mae Cazbah wedi bod yn rym creadigol tu ôl i’r fenter o’r cychwyn cyntaf. 
 

Gan weithio gyda’n partneriaid Prospects, Business In Focus, Antur Teifi a Markit,  rydym wedi dod ag athrawon, cyflogwyr, gwleidyddion, a phobl ifanc ynghyd mewn cyfres o ddigwyddiadau, seremonïau gwobrwyo a chystadlaethau dan faner rhaglen Syniadau Mawr Cymru. Rydym wedi cynllunio holl ddeunydd y prosiect yn cynnwys, gwefannau, taflenni, pamffledi, fideos, a byrddau arddangos.
 

Canlyniad ein rhwydwaith ardderchog o gysylltiadau ledled Cymru yw adnodd amhrisiadwy o brofiad ac ysbrydoliaeth ar gyfer pobl ifanc trwy astudiaethau achos, sesiynau un i un,  bootcamp,  gweithdai a digwyddiadau cenedlaethol.
 

Llwyddodd ein gwaith cynllunio creadigol  i godi ymwybyddiaeth y prosiect a thrwy hynny godi uchelgais pobl ifanc ledled Cymru. 
 

Canlyniadau
 

Rydym yn cysylltu â dros 50,000 o bobl ifanc yn flynyddol i’w hysgogi i fod yn fos arnynt eu hunain rhyw ddiwrnod ac i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd. Rydym wedi cefnogi dros 600 o bobl ifanc ar sail un i un gyda chyngor arbenigol ac arweiniad ac rydym wedi cefnogi 100 o bobl ifanc o dan 25 mlwydd oed i gychwyn busnes.

Screenshot 2019-04-05 at 14.58.30.png
Screenshot 2019-04-05 at 14.58.18.png
Screenshot 2019-04-05 at 14.57.31.png
Screenshot 2019-04-05 at 14.59.28.png
Screenshot 2019-04-05 at 14.59.40.png
bottom of page