top of page
kisspng-event-management-computer-icons-

Digwyddiadau


Rydym yn credu mai darpariaeth sydd wrth wraidd llwyddiant.. Pa un ai yw eich digwyddiad yn semniar ar gyfer 20 o bobl, neu yn anghenfil tri diwrnod ar gyfer 20,000 yr un yw ein dull o weithredu.
 

Mae ein tîm yn mwynhau sialensiau a fyddai eraill, efallai yn eu cael yn ddiflas neu'n ddirboenus. Mae ein gwasanaeth yn cynnwys pob agwedd hanfodol o reoli digwyddiad:-

  • cynllunio fformat a chynnwys eich digwyddiad

  • nodi, archebu a chysylltu â siaradwyr rs

  • canfod a chysylltu â'r lleoliad

  • rheoli'r cynrychiolwyr o'u gwahodd i werthuso eu profiad

  • hyrwyddo'r digwyddiad i sicrhau eich bod yn denu'r gwesteion yr ydych eu hangen

  • sicrhau nawdd a chydberthnasau positif i'ch cwmni

  • cludiant ar gyfer gwesteion a siaradwyr

  • clyweled mae cyngor a gweithrediant yn rhan hanfodol o'r agwedd yma o reoli digwyddiad.


Cyn i ni ddechrau ar unrhyw beth, byddwn yn neilltuo amser er mwyn deall yr hyn yr ydych angen gennym.

Gallwn wneud popeth yn ôl eich dymuniad, gallwn reoli pob manylyn hyd at y paned goffi diwethaf, neu ond mynd i'r afael ag un neu ddau o bethau dibwys nad ydych â'r amser i ymdopi â hwy.

Mae rheoli digwyddiad yn rhoi boddhad ond yn aml mae'n peri poendod, felly mae'n werth nodi y byddwn yn cyflawni'r cyfan o'r uchod gyda gwen. Bydd ein staff cyfeillgar, proffesiynol yn sicrhau bod y digwyddiad yn brofiad pleserus i chi a'r rhai sy'n mynychu.

​

​

bottom of page